Dros 12 mlynedd o brofiad yn datblygu gwefannau yn y sector cyhoeddus ar ystod o blatfformau.
Rydym yn cyfuno dyluniad creadigol ac arloesol â manylder ym mhrofiad y defnyddiwr a chynnwys sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Gyda’n cefndir mewn Cyfathrebu, Dylunio a Gwasanaethau Cwsmer, rydym yn gwybod sut mae darparu gwefannau sy’n cynorthwyo’ch busnes ac yn ymgysylltu â’ch cwsmeriaid.
Rhai o’n cleientiaid diweddar
-

Parc Bute
parc-bute.com/
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Teuluoedd Caerdydd
Teuluoedd Caerdydd
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Dysgu Oedolion Caerdydd
Dysgu Oedolion Caerdydd
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Swyddfa Gofrestru Caerdydd
swyddfagofrestrucaerdydd.co.uk
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

EVAC Caerdydd
evaccardiff.co.uk
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Harbwr Caerdydd
cardiffharbour.com
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog Caerdydd
gwasanaethautrafnidiaethcaerdydd.co.uk
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

CF11 Fitness
cf11ffitrwydd.co.uk
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Gwastraff Masnachol Caerdydd
gwastraffmasnacholcaerdydd.co.uk
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Gwirfoddoli Caerdydd
gwirfoddolicaerdydd.co.uk
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Academi Cyngor Caerdydd
cyngorcaerdyddacademi.co.uk
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Caerdydd Awyr Agored
caerdyddawyragored.com
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Cartref Cŵn Caerdydd
cartrefcwncaerdydd.co.uk
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Storey Arms
storeyarms.com
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Archifau Morgannwg
archifaumorgannwg.gov.uk
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Y Gwasanaeth i Mewn i Waith
imewniwaithcaerdydd.co.uk
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Llety Caerdydd
lletycaerdydd.co.uk
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Cadwch Gaerdydd yn Daclus
cadwchcaerdyddyndaclus.com
Gwybodaeth
Cymryd golwg
-

Bwrdd Diogelu
cardiffandvalersb.co.uk
Gwybodaeth
Cymryd golwg

Ein Gwasanaethau
Dylunio Gwe Ymatebol
Adeiladir ein holl safleoedd gyda’r bwriad o fod yn symudol. Rydym yn cynnal arbrofion tros borwr a dyfais i sicrhau bod eich gwefan yn edrych yn wych ac yn gweithio’n dda ar fwrdd gwaith ac ar lechen neu ffôn.
SEO
Rydym yn trin elfennau technegol a chreadigol Gwneud y Gorau ar Beiriant Chwilio i sicrhau bod eich gwefan yn cael ei harddangos y mwyaf bosibl trwy’r peiriannau chwilio.
Creu Cynnwys
Mae’r cynnwys yn hollbwysig o ran cyfathrebu â’r cwsmeriaid. Gadewch i ni weithio â chi i wneud yn siŵr bod eich negeseuon yn cael eu trosglwyddo’n glir a bod eich cwsmeriaid yn dod yn ôl am fwy.
Ymgynghori Digidol
Rhowch wybod i ni beth rydych am i’ch busnes ei gyflawni. Gallwn eich helpu i ddatblygu cynnwys neu strategaethau digidol i’ch helpu i gyflawni eich amcanion.
Lletya a Pharth
Cofrestru a rheoli enw parth gyda ffioedd lletya blynyddol isel.
Oes gennych chi syniad y mae angen help arnoch i’w ddatblygu?
Cwrdd â’r Tîm
-

Ruth Long
Rheolwr Tîm Gwe
-

Jon Haines
Dylunydd Gwe
-

Gareth Johns
Dylunydd Gwe
-

Russell Davies
Dylunydd Gwe
-

Rhian Harron
Dyluniwr cynnwys
-

Joe Green
Swyddog cynnwys
-

Lauren Enoch
Swyddog cynnwys
Cysylltu â ni
Anfon neges atom
Trefnu cyfarfod gyda ni
CF11 Fitness

Wedi gwaith adfywio mawr, roedd Canolfan Hamdden Trem y Môr am arddangos eu hystafell ffitrwydd fodern newydd, CF11 Fitness Y prif ffocws oedd hyrwyddo canolfan fforddiadwy, gyfeillgar, gynhwysol a fyddai’n annog unrhyw un i ymuno.Bu i ni ganolbwyntio ar greu dyluniad byw, syml. Integreiddio i’r cyfryngau cymdeithasol, hidlwyr dosbarthiadau ymarfer, gallu lawrlwytho amserlenni yn ei gwneud yn hawdd a hygyrch i gwsmeriaid gael gwybodaeth ac ymgysylltu â’r ganolfan.
Gwastraff Masnachol Caerdydd

Roedd y tîm Gwasanaethau Gwastraff Masnachol am gynyddu nifer eu cwsmeriaid a datblygu gwefan apelgar i gystadlu â chwmnïau lleol a chenedlaethol sy’n cynnig gwasanaethau tebyg.Bu i ni ganolbwyntio ar ddatblygu gwefan addysgol ac ymarferol trwy integreiddio fideos addysgol a blog digwyddiadau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid. Mae ychwanegu ffurflen gyswllt benodol at ymyl pob tudalen yn annog cwsmeriaid i gysylltu â’r tîm yn hawdd.
Caerdydd Awyr Agored

Roedd ein cleient eisiau diweddaru ei wefan i hyrwyddo ystod eang o barciau a mannau gwyrdd a’r amwynderau awyr agored sydd ar gael yng Nghaerdydd ac amlygu pwysigrwydd bywyd iach ac actif. Roedd hefyd yn allweddol er mwyn hyrwyddo manteision i’r iechyd a lles a ddaw wrth fforio’r awyr agored.Bu i ni ganolbwyntio ar greu gwefan sy’n denu ac yn apelio at y llygaid trwy ddefnyddio orielau lluniau i hyrwyddo ac annog pobl i fforio Caerdydd a’r ardal o’i chwmpas. Ychwanegwyd ffurflenni cyswllt a chais i adael i’r cyhoedd greu a gweld digwyddiadau mynd am dro a cherdded bryniau. Roedd hefyd yn bwysig gan y cleient bod y wefan yn addysgol ac yn cynnig canllawiau ar flodau ac anifeiliaid yn ogystal â mapiau i’w lawrlwytho.
Cartref Cŵn Caerdydd

Gyda nifer uwch o ymwelwyr i Gartref Cŵn Caerdydd, a mwy o bobl eisiau gwirfoddoli fel cerddwyr cŵn, roedd ein cleient eisiau gwefan lle gallai gwirfoddolwyr posibl gofrestru am hyfforddiant. Roedden nhw am hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ymhlith perchnogion ci presennol a darpar berchnogion.Bu i ni ganolbwyntio ar ddylunio gwefan ddeinamig ar gyfer y cleient a’r cwsmeriaid. Roedd y galw uchel am gerddwyr cŵn yr oedd angen iddynt fynd i sesiwn sefydlu’n golygu bod cynnwys ffurflen archebu yn hanfodol. Mae’r hysbysfwrdd colli a chanfod yn brif nodwedd ar y wefan, ac mae’n rhoi cyfle i’r cleient uwchlwytho lluniau a disgrifiad byr o bob ci y mae’n ei dderbyn a’i statws o ran cael cartref newydd.
Gofal Cymdeithasol Caerdydd a’r Fro

Roedd ein cleient yn cynrychioli partneriaeth o weithwyr cymorth trwy Gaerdydd a’r Fro. Nod y wefan oedd hyrwyddo’r bartneriaeth a chynorthwyo twf a datblygiad yn y sector gyda mynediad at hyfforddiant a gwybodaeth am yrfaoedd.Bu i ni ganolbwyntio ar ddylunio gwefan hawdd ei defnyddio a lliwgar lle gallai gofalwyr ddod o hyd i wybodaeth a chymorth defnyddiol. Mae ein hidlwyr gyrfaoedd a gwybodaeth, yn ogystal ag integreiddio chwiliwr gwefan yn ei gwneud yn haws i bobl ei defnyddio a chael yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt.
Gofal Maeth Caerdydd

Roedd hi’n bwysig gan ein cleientiaid y byddai eu gwefan yn atynnu gofalwyr maeth wrth amlygu’r cymorth a hyfforddiant sydd ar gael i ofalwyr maeth presennol. Mae ymgyrch hefyd i annog gofalwyr sy’n maethu ar hyn o bryd trwy asiantaethau preifat i ddod i faethu i Gaerdydd.Bu i ni ganolbwyntio ar ddatblygu gwefan ddefnyddiol, llawn gwybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol i ddarpar ofalwyr maeth a’r rhai presennol. Roedd Digwyddiadau a Newyddion yn nodweddion pwysig i ni eu cynnwys, a fydd yn helpu i hyrwyddo unrhyw ddigwyddiadau hyfforddi neu recriwtio sydd gan y cleient ar y gweill. Mae blog a fideo wedi eu defnyddio ar y wefan i amlygu tystebau a ffurflenni cyswllt i’w gwneud hi’n haws i ofalwyr, neu ddarpar ofalwyr maeth, fynegi eu diddordeb yn y gwasanaeth.
Storey Arms

Roedd ein cleient eisiau gwefan newydd, ddeinamig a fyddai’n hyrwyddo’r gweithgareddau a chyrsiau sydd ar gael yn Storey Arms, wrth amlygu lleoliad hardd y ganolfan yng nghanol y Bannau Brycheiniog.Roeddent am i’w gwefan fod yn gwbl hygyrch ac ar gael ar bob dyfais, iddi fod yn lle y gall athrawon, rhieni a disgyblion fynd i gael gwybodaeth ddiweddar am y ganolfan cyn mynd ar gwrs neu weithgaredd.
Bu i ni ddatblygu gwefan gwbl ymatebol, sy’n mynnu’r sylw wrth amlygu’r cyfleusterau a’r llety sydd yn y ganolfan ac sy’n cynnig llawer o wybodaeth hawdd ei chael.
Archifau Morgannwg

Gan fod hwn yn wasanaeth archifau ar y cyd ar gyfer chwe awdurdod lleol, roedd hi’n hanfodol bod gwefan Archifau Morgannwg yn ddeinamig, yn mynnu sylw ac yn hawdd ei defnyddio. Roedd ein cleient eisiau i’r wefan apelio at gynulleidfa darged eang ac amlygu ei wasanaethau mewn ffordd ddiddorol ac addysgol.Bu i ni ganolbwyntio ar ddatblygu gwefan syml a hygyrch a fyddai’n darparu ar gyfer amrywiaeth o bobl. Gwnaethom yn siŵr y gallai pobl gyrchu gwybodaeth yn hawdd trwy ychwanegu nodwedd digwyddiadau y gellid ei defnyddio i hyrwyddo sgyrsiau’r dyfodol yn uniongyrchol ar y dudalen hafan. Roedd y nodwedd blog ychwanegol yn ddelfrydol ar gyfer ein cleient i gyhoeddi newyddion a straeon am ganfyddiadau hanesyddol ac archifol, sy’n golygu y bydd y cyhoedd am ddychwelyd i’r wefan i gael gwybodaeth ddiweddar neu i ddarllen y naratif y tu cefn i rai o’r eitemau yn yr archif.
Y Gwasanaeth i Mewn i Waith

Roedd ein cleient eisiau gwefan lle byddai’n hawdd cael gwybodaeth am gymorth i fynd yn ôl i waith trwy Gaerdydd. Golygai hyn ei bod yn bwysig cynnwys gwybodaeth am hyfforddiant, mynediad at gynghorwyr gyrfaoedd yn ogystal â chanllaw ar gychwyn busnes. Roedd y cleient hefyd eisiau amlygu pa mor rhwydd yw defnyddio’r gwasanaeth i gymunedau lleol, gan ganolbwyntio fwyaf ar bobl sy’n agored i niwed a hyrwyddo ac annog addysg well.Bu i ni ganolbwyntio ar greu gwefan glir, fodern a fyddai’n hygyrch i amrywiaeth o bobl ac a fyddai hefyd yn amlygu gwybodaeth bwysig a gwasanaethau y mae’r cleient yn eu cynnig. Mae cynnwys y cyfryngau cymdeithasol a nodweddion fideo yn y wefan yn helpu i greu safle deinamig sy’n apelgar ac yn ei gwneud yn hawdd i chwilwyr swydd gysylltu.
Llety Caerdydd

Mae ein cleient yn darparu gwybodaeth i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghaerdydd a gyda phoblogaeth myfyrwyr o 36,000, roedd yn bwysig bod y wybodaeth yn glir ac yn hygyrch i ystod eang o bobl.Gwnaethom ganolbwyntio ar greu gwefan ddeniadol a hygyrch a fyddai’n rhwydd ei lywio ac yn apelio at ddemograffig iau yn bennaf. Roedd integreiddio Cyfryngau Cymdeithasol yn nodwedd bwysig y gwnaethom ei chynnwys, gan ei wneud yn haws i’r cleient ddiweddaru gwybodaeth a chynnig platfform i fyfyrwyr gysylltu â nhw.
Cadwch Gaerdydd yn Daclus

Roedd ein cleient eisiau gwefan amrywiol a fyddai’n ei alluogi i roi gwybodaeth i breswylwyr am Ailgylchu a rheoli gwastraff. Roedd angen i’r safle amlygu cyfleoedd i wirfoddoli, gwybodaeth am reoli gwastraff a chael adran ryngweithiol a fyddai o fudd i blant ysol ddysgu am ailgylchu.Gwnaethom ganolbwyntio ar ddatblygu gwefan a oedd yn ddynamig ac yn ddeniadol trwy drefnu’r hafan gyda fformat teils, sy’n sgrolio trwy ddelweddau ac yn cynnwys fideos addysgiadol. Roedd y blog/eitem newyddion ychwanegol yn bwysig i’n cleient barhau i ddiweddaru’r wefan gyda gwybodaeth a newyddion. Datblygom adran hollol ddynamig, wedi’i hanelu at blant ysgol i’w dysgu am ailgylchu, roedd y rhan hon yn cynnwys stori wedi’i hanimeiddio gydag elfennau cwis rhyngweithiol.
Bwrdd Diogelu

Roedd ein cleient eisiau i’w gwefan ddarparu mynediad rhwydd at gyngor cyfredol i amrywiaeth o bobl, o blant a phobl ifanc i oedolion a phobl broffesiynol. Roedd yn hanfodol bod defnyddwyr yn gallu llywio’r wybodaeth yn rhwydd a lawrlwytho dogfennau arweiniad, deddfwriaeth a phrotocol.Gwnaethom ganolbwyntio ar greu gwefan sydd wedi’i rhannu rhwng diogelu plant a diogelu oedolion, gan sicrhau ei fod yn syml i ddefnyddwyr lywio yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau. Gan fod gan y cleient ddemograffig mor fawr ac amrywiol, gwnaethom sicrhau bod yr holl gynnwys yn hygyrch, wedi’i arddangos yn glir ac yn gryno o ran gwybodaeth allweddol. Oherwydd bod i’r wefan natur mor sensitif a difrifol, penderfynom fod cynnwys galwad am gamau gweithredu ‘Adrodd am Bryder’ yn bwysig ynghyd â nodwedd ‘Cuddio’r dudalen we hon’ ar gyfer unrhyw ddefnyddwyr sy’n agored i niwed ar y safle.
Swyddfa Gofrestru Caerdydd

Gan fod y ddemograffeg darged mor amrywiol, roedd angen gwefan ar ein cleient a fyddai’n hawdd gwe-lywio o’i chwmpas ac yn hygyrch i bawb. Y prif ddiben oedd tynnu sylw at y gwasanaethau seremonïol a gynigir gan Swyddfa Gofrestru Caerdydd, a rhoi gwybodaeth hefyd am y gwasanaethau eraill.
Roedd ein pwyslais ar greu gwefan siriol a gafaelgar a oedd yn hawdd gwe-lywio o’i chwmpas ac yn tynnu sylw at y gwasanaethau a’r lleoliadau sydd ar gynnig. Roedd integreiddio’r rhestr ‘Mangreoedd Cymeradwy’ gyfredol yn galluogi cwsmeriaid i hidlo lleoliadau posibl ar gyfer eu priodasau, ac roedd ychwanegu’r ffurflen gyswllt yn galluogi darpar gwsmeriaid i ofyn am wasanaethau y tu allan i’r oriau gweithredu arferol.
Oherwydd pwysigrwydd dogfennaeth ar gyfer priodasau, partneriaethau sifil, genedigaethau a marwolaethau, mae’n hollbwysig i’r wybodaeth gael ei harddangos mewn ffordd glir a chryno heb gynnwys gormod o ymadroddion cyfreithiol. Gwnaethom gyflawni hyn trwy drefnu’r cynnwys mewn adrannau ac ychwanegu rhestrau i bobl eu defnyddio.
EVAC Caerdydd

Gyda diddordeb cynyddol y cyhoedd mewn rheoli argyfyngau yn y ddinas, roedd ein cleient yn awyddus i’r wefan fod yn addysgol ac yn gryno ac i gynnwys y cyfleusterau chwilio gorau posibl. Byddai hyn yn galluogi preswylwyr posibl i gyrchu’r wefan dan amgylchiadau brys.Gwnaethom ddatblygu gwefan a oedd yn hawdd gwe-lywio o’i chwmpas ac a oedd yn hyb gwybodaeth i breswylwyr Caerdydd. Gwnaethom integreiddio map â haenau wedi’u hidlo i dynnu sylw at fannau diddorol ar hyd a lled y ddinas e.e. mannau gadael, diffribilwyr. Bydd hyn yn ddefnyddiol fel cymorth yn ystod trychineb ac mae’n galluogi pobl i baratoi eu hunain cyn unrhyw argyfwng.
Ychwanegwyd ffrydiau cyfryngau cymdeithasol perthnasol at wahanol adrannau’r wefan hefyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am y tywydd, trafnidiaeth a’r gwasanaethau brys.
Academi Cyngor Caerdydd

Penderfynon ni mai’r peth gorau fyddai dangos yr ystafelloedd i’w llogi trwy lyfrgell luniau a fyddai’n helpu darpar gwsmeriaid i gael syniad gwell o’r sesiynau hyfforddi cyn cofrestru.
Ychwanegwyd ffurflen i alluogi cwsmeriaid i gysylltu â’r cleient yn hawdd gydag ymholiadau cyffredinol, i drafod llogi ystafell neu i gael gwybodaeth am gwrs.
Gwirfoddoli Caerdydd

Harbwr Caerdydd

Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog Caerdydd

Dysgu Oedolion Caerdydd

Mae gan y wefan hefyd hafanddalen ddeinamig. Mae cwymplen ar y brig ac os caiff tudalen ei dewis mae’r tudalennau eraill o’r gwymplen yn gyfleus mewn dewislen ochr ar y dudalen hon i roi mynediad hawdd.
Tenantiaid ynghyd

Teuluoedd Caerdydd

Roedd ein cleient am gael gwefan i 3 cynulleidfa unigryw: gweithwyr proffesiynol, pobl ifanc a rhieni. Creom y 3 adran hyn gyda chynnwys sy’n berthnasol i bob un gan ei gwneud yn hawdd newid rhyngddynt drwy dewislen ar y brig. Mae hefyd dudalen cyswllt a chyngor brys ar y ddewislen uchaf lle mae ganddi fotwm lliw gwahanol gyda symbol rhybudd i’w gwneud yn weladwy.Gwnaethom hefyd osod adran ‘siarad â ni’ gyda ffurflen neges a dolenni i ffyrdd eraill o gysylltu. Ar gyfer thema’r wefan gwnaethom ddewis cynllun lliwgar, llachar gyda blociau testun lliw i’w gwneud hi’n addasu i blant.
Gwasanaethau 24/7

Parc Bute

Mae llawer iawn o ddelweddau ar y wefan i frolio nodweddion megis y bywyd gwyllt sy’n byw yno a’r planhigion sydd ar werth, a lluniau i hysbysebu gweithgareddau ar yr hafan fel atyniadau a sesiynau addysgol. Mae gan y bar dewislen uchaf gwymplenni mawr sy’n amlygu gwybodaeth hanfodol fel amseroedd agor a rheolau’r parc.